Codi safonau gyda'n gilydd

Polisi preifatrwydd y wefan

Mae angen i ni gael gwybodaeth bersonol amdanoch fel y gallwn ddarparu gwasanaethau i chi. Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn dweud sut y byddwn ni'n gofalu am yr wybodaeth honno.

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well a rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar ei thudalennau a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ni ei gwneud yn haws i ddefnyddio’r wefan a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well.

Mae’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni chaiff y data’i ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis ar ein gwefan:

Language version

Enw:

langPrefWAG

Diben: Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol i’r wefan ddangos y wefan yn yr iaith gywir.

GoogleAnalytics

Enw:

__utma
__utmb
__utmc
__utmz

Diben: Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

CookieControl

Enw:

civicAllowCookies
civicShowCookieIcon

Diben: Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn cwcis ar ein gwefan.

YouTube

Enw:

VISITOR_INFO1_LIVE
PREF
use_hitbox

Diben: Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan.

Mae modd rheoli rywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.

Cofrestru

Mae rhai nodweddion ar wefannau Llywodraeth Cymru yn golygu bod angen i chi gofrestru. Yr wybodaeth gofrestru sydd ei hangen arnom er mwyn cofrestru yw eich cyfeiriad e-bost. Caiff y data hyn eu storio yn yr Unol Daleithiau ac mae’r ffordd y caiff y data eu trin a’u trafod yn bodloni darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data. Caiff yr wybodaeth hon ei storio hyn nes y byddwch yn penderfynu dileu eich cyfrif.

Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a’ch manylion mewngofnodi drwy’r wefan ar unrhyw adeg. Os nad ydych am dderbyn cylchlythyron Llywodraeth Cymru mwyach gallwch ddileu eich cyfrif o’r dudalen dewisiadau yn eich cyfrif.

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar serfwyr Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Llawn Google am yr wybodaeth fanwl.

Mae’r wefan hon, o bryd i’w gilydd, yn darparu dolenni at ffurflenni SurveyMonkey ar gyfer casglu data. Caiff y data hwn ei brosesu yn yr Unol Daleithiau ac mae’r modd y caiff ei drin yn bodloni darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data.

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth y rheini sy'n ymweld â'r wefan hon: adborth a manylion tanysgrifio trwy e-bost.

Adborth

Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg.

Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Y Ddeddf Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio’r technolegau a’r feddalwedd amgryptio ddiweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelwch llym er mwyn sicrhau na cheir mynediad ato heb awdurdod. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac i adrannau eraill o'r llywodraeth.

Hawl i weld eich gwybodaeth a chysylltu â ni

Os hoffech weld cofnod o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi'i hanfon atom, neu os bydd gennych ymholiad neu gwyn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y wefan hon, cysylltwch â'r gwefeistr trwy anfon e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn: webmaster@cymru.gsi.gov.uk

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Helpwch ni i wella'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol »

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon sylwadau atom ynghylch y safle hwn neu i gael rhagor o wybodaeth am y fersiwn beta hon »

Canslo
Angen dweud mwy? Defnyddiwch y prif ffurflen gysylltu raquo;
Diolch, mae eich adborth wedi'i gyflwyno.
Mae hon yn wefan Beta.
Am ragor o wybodaeth »